This blog is an attempt to concentrate my thoughts on various interests and concerns.
Tuesday, 28 June 2011
Mehefin 27ain, Dydd Llun
Ar ben Bell Lane roedd car wedi parcio. Roedd dyn yn eistedd ar gadair blygu wrth ymyl stôf wersyll a bag dogfennau agored. Roedd o'n gwisgo het Banamâ a siwt ddu. Roedd golwg rhyfedd am 6.30 yn y bore. Yn fuan roedd yr haul yn danbaid. Ro'n i'n falch iawn o gyrraedd Whittaker Wood. Mi wnes i lithro drwy'r coed fel lyncs ifanc. Mi gyrhaeddais dôl yn llawn blodau a gloynod byw a phyfed llwyd ond doedd fy nghroen ddim yn ymateb i'r brathau.
Aderyn y dydd: Pioden y mor. Roedd sawl pioden yn swnllyd uwchben Llyn Hollingworth. Doedden nhw ddim yn edrych yn gartrefol yna.
Blodyn y dydd: Tagwygbysen.
Saig y dydd: Lumaconi â saws cig eidion, madarch, Marsala a thomatos.
Cwrw y dydd: Banks Bitter yn y Clwb ar ôl Pwyllgor Arolwg ac Archwiliad sydd dim yn gyffroes iawn.
Sunday, 26 June 2011
Mehefin 26ain, Dydd Sul
Roedd hi'n gymylog a llwydaidd yn y bore ond roedd yr haul yn tywynnu wrth i mi dynesu at Gronfa Rooden. Roedd gylfinirod yn crio ar bob llaw. Roedd y llwybr yn llithrig a mi gwympais i er gwaethaf fy ffyn. Efallai bydda i'n gyfarwydd â disgyn efo ymarferiad. Neu fydda i'n ddu las. Roedd dynes glên efo ceffyl mewn fan geffylau a thri ci gwyllt neu gefeillgar yn fferm Edge Gate. Mi ddes i cytuno â Jon Comyn-Platt ger Cronfa Ogden. Roedd o'n mynd â chi mawr a gwlanog am dro, ci ei ferch o, ond roedd y ci yn rhy hen i ddringo'r bryniau. Fy frind o Blaid Llafur Milnrow and Newhey ydy Jon. Mi helpodd o i ddosbarthu taflenni a chanvasio yn yr etholiaeth lleol.
Aderyn y dydd: Cog yn crio ger Fferm Tunshill.
Blodyn y dydd: Gwyddfid llaeth yn Higher Ogden.
Saig y dydd: Frittata â ricotta, olifau a brenhinllys.
Cwrw y dydd: Timothy Taylor's Best Bitter yn The Old Bridge Inn, Ripponden, yn ôl pob tebyg tafarn y hynaf yn Swydd Efrog. Mae'r Best Bitter well gen i na Landlord.
Mehefin 24ain Dydd Gwener
Cynhelwyd noson cwis yng Nghlwb Llafur Rochdale.
Cwrw y dydd: Cumberland Ale yn y clwb a Bristol Beer Factory No 7, ar ôl i mi dychwelyd adre.
Saig y dydd: Siancen cig moch â phys slwtsh.
Cwrw y dydd: Cumberland Ale yn y clwb a Bristol Beer Factory No 7, ar ôl i mi dychwelyd adre.
Saig y dydd: Siancen cig moch â phys slwtsh.
Friday, 24 June 2011
Mehefin 22ain Dydd Mercher
Roedd y taith cerdded yn byr heddiw. Roedd rhaid i mi mynd â Marion i'r clinig clyw, Tŷ Nye Bevan yn Rochdale am brawf ei chymorthion clywed hi. Felly mi es i i lawr Lôn Llydw (neu Onn) i'r Afon Beal. Roedd y llwybr yn orchuddiedig â thyfiant, yn cynnwys danadl poethion, ac yn wlyb a llithrig.
Aderyn y dydd: Nico. Mae llawer o Nicos ym mhobman.
Blodyn y dydd: Meillionen coch.
Saig y dydd: Chorizos â gwygbys â saws tomato.
Cwrw y dydd: Dim diferyn o gwrw o gwbl. Ro'n i'n teimlo'n sâl. Mi es i i'r wely am saith.
Cân y dydd: Allan o dy ben. Meinir Gwylim. Dw i ddim yn anghyson.
http://www.mapmywalk.com/routes/view/38415494
Tuesday, 21 June 2011
Mehefin 21ain Dydd Mawrth
Mi ges i fy neffro gan fy ngwraig am 5.30yb. "Mae Smotyn (y gath) ddim wedi bod adre y noson y gyd," meddai hi. Felly cerddais i'r strydoedd amgylchynol ond roedd o wedi dod adre ar ei ben ei hun. Wedyn es i am dro. Gwelais i bioden yn rhedeg ar ôl gwiwer ar wâl ar Kiln Lane. Mi es i drwy Peanock, lle oedd Edwin Waugh, bardd tafodiaeth Swydd Gaerhirfryn 1817-90, yn byw.
Aderyn y dydd: Gwyach fawr gopog. Ar Llyn Hollingworth. Dim Gwyach big-frith o gwbl yn anffodus.
Blodyn y dydd: Tresgl y moch.Saig y dydd: Pwdin bara menyn efo ciabatta, cyrens, bricyll sychion a mwyar goji.
Cwrw y dydd: Dau beint o Thwaites Wainwright yn y Crocbren efo Geoff ac Ian.
Cân y dydd: Siwgwr i'r tân Meinir Gwilym
http://www.mapmywalk.com/routes/view/38287800
Mehefin 20ain Dydd Llun
Penderfynais i gwneud tro byr y bore 'ma oherwydd roedd fy nghroth coes dali i boeni. Pan o'n in gweithio roedd fy nhaith bore'n parhau am un awr. Heddiw roedd hi'n heulog. Gwelais i sawl aderyn bach brown ar wifrau telegraff. Codais fy spienddrych o'r sach teithio. Wrth gwrs roedden nhw'n mynd i gyd. Bydda i'n gwisgo fy spienddrych o gwmpas fy ngwddw yn y dyfodol. Dw ddim isio bod golwg ecsentrig arna i. Cynghorydd ydw i, wedi'r cwbl. Erbyn hyn mae gen i siorts (ond dw i ddim yn gwisgo fy hosan cywasgiadol am thrombosis gwythiennol dwfn efo siorts), trwyn coch, barf wen a fynn nordig. Pan o'n i'n gweithio roedd rhan o'r daith lleidiog iawn yn agos nant fach islaw coed helyg. Rŵan mae'r cyngor wedi gosod cerrig a rhybudd ynglŷn â beisiclau modur.
Aderyn y dydd: Yswidw benddu.
Blodyn y dydd: Briwydd wen. Ar ben cloddiau sychion, yn edrych yn syml a siriol.
Saig y dydd: Cyw iar a Brie. Yn y Swan Hotel, Whalley.
Cwrw y dydd: Hen Harrier, Bowland. Yn y Swan Hotel.
Sunday, 19 June 2011
Mehefin 17eg Dydd Gwener y Sulgwyn
Roedd hi'n braidd yn oer am chwech o'r gloch yn y bore. Yn fuan ro'n i'n chwysu a chwythu, yn arbennig ar y lôn uwchben Higher Ogden. Ar y ffordd adre wnes i tynnu cyhyr croth coes felly ro'n i'n hercio adre.
Aderyn y dydd: Gwennol y bondo yn ymosod pioden yn eistedd ar bolyn telegraff, Kiln Lane.
Blodyn y dydd: Pabi Cymreig, Clwb Golff Tunshill.
Saig y dydd: Pysgod a dim sglodion o siop tsips yn Delph yn ystod cystadleuaeth band pres Dydd Gwener y Sulgwyn Saddleworth.
Cwrw y dydd: Icicle, Greenfield Real Beer Company o Clwb Band, Delph. Dw i wedi angofio faint o beint. Gormod, beth bynnag. Ro'n i'n hapus yng nghwmni llawer o gyfeillion.
Cân y dydd: Yma o hyd, Dafydd Iwan. Beth bynnag dw i'n meddwl fy mod i.
http://www.mapmywalk.com/routes/view/37842322
http://www.mapmywalk.com/routes/view/37842322
Mehefin 16eg Dydd Iau
Roedd dau gi hwyliog iawn yn agos Schofield Hall y bore cymylog 'na. Rhedon nhw ata i. Roedd eu perchennog ymddiheuriol. Roedd o'n gwisgo crys a thei. Efallai roedd o'n barod i fynd i'w swydd. Mi gerddais i o Orsaf Reilffordd Smithybridge trwy Clegg Hall adre er mwyn cael gwybod os dylwn i fynd y ffordd honno i Fancenion.
Aderyn y dydd: Ehedydd yn canu ger Syke.
Blodyn y dydd: Bysedd y cŵn, pinc a gwyn.
Saig y dydd: Cole slaw. Ffa llydain a bresychen goch.
Cân y dydd: Disgwyl rhywbeth gwell i ddod, Meic Stevens.
Cwrw y dydd: Exmoor Ale yn y Crocbren.
http://www.mapmywalk.com/routes/view/37730526
Mehefin 15fed Dydd Mercher
Mi penderfynais gwisgo fy siorts. Roedd hi'n bwrw glaw mân. Mi welais i hen ddyn blin yn rhedeg o gwmpas Llyn Hollingworth. Mi ganais i, "Good morning," ond roedd o'n dal yn flin. Dw i'n ceisio bod fel fy Aelod Seneddol, Simon Danczuk. Mae o'n cerdded o amgylch y bwrdeistref yn gwisgo ei siwt ddu, crys gwin a thei coch, yn codi llaw ar bawb ac yn gweiddi, hêlo cariad. Mi wnaeth o hynny yn y carnifal Milnrow. Mi wnes i gario'i ambarél o. Dw i ddim yn meddwl bod dw i'n wleidydd cynhenid. Dw i'n swnio fel Blodwen Jones bob dydd. Mae Blodwen yn hunanobsesiynol ac yn blagus iawn.
http://www.mapmywalk.com/routes/view/37615580
Aderyn y dydd: Crëyr glas yn ymosod gan brân rhwng Llyn Hollingworth a Rakewood.
Blodyn y dydd: Llygad llo mawr ger Llyn Hollingworth.
Saig y dydd: Uwd efo iogwrt groegaidd gartre ac afalau.
Cân y dydd: Geraint Griffiths, Jiwbili.
Does dim cwrw y dydd. Onest. Ond bydda i'n gwneud iawn am hynny Dydd Gwener.
Mehefin 14eg Dydd Mawrth
Roedd y bore heddiw yn heulog. Roedd y cerrig gwlyb ar y llwybr yn ddisglair. Mi edrychais i i fyny ar yr olion anwedd (contrails) yn yr wybren las. Dw i ddim yn genfigennus rŵan. Rhedodd heibio merch efo adargi cochlyd. Roedd hi'n denau iawn, bron yn esgyrnog. Mi wnes i'r un daith â ddoe. Pan dw i'n cerdded, dw i'n meddwl a dw i'n ceisio cyfieithu fy meddyliau yn Nghymraeg. Mae gen i iPhone efo app Mapmywalk. Mae o'n rhoi y map ar Facebook yn awtomadig efo pellter, cyflymder ayyb. Braidd yn glyfar.
Aderyn y dydd: Gylfinir ger Cronfa Norman Hill.
Blodyn y dydd: Blodeuyn ysgaw. Dw i isio gwneud jam eirinen Fair.
Saig y dydd: Samosas yn y cyfarfod heddiw.
Cân y dydd: Meinir Gwilym eto, Dim Byd a Nunlla.
Cwrw y dydd: Cumberland eto yn y clwb eto.
http://www.mapmywalk.com/routes/view/37483642
http://www.mapmywalk.com/routes/view/37483642
Wednesday, 15 June 2011
Mehefin 13eg Dydd Llun
Wrth fod mi wnes i ddeffro yn gynnar, penderfynnes i mynd am dro. Ro'n i'n cerdded llawer, gormod efallai, yn ystod ymgyrch yr etholiad lleol, yn dosbarthu taflenni a canvasio ond ers hynny dw i i fod i eistedd ar fy mhen ôl mewn cyfarfodydd pwyllgorau. Dw i'n gwybod bod ymarfer yn yr awyr iach yn dda at iechyd corfforol a meddyliol. Felly, penderfynes i cerdded bob bore am chwech o'r gloch am ddwy awr. Pan o'n i'n gweithio, ro'n i'n cerdded a rhedeg bob bore. Hefyd, roedd rhaid i mi colli helfa drysor Caerwys dydd Sadwrn a ro'n i'n teimlo'n ddigalon arna i. Mi gerddes i efo fy ffyn Nordig a fy esgidiau cerdded. Ro'n i'n hapus iawn er gwaethaf y glaw gyrru yn golchi'r chwys o fy nhalcen yn gwneud llosgi fy llygaid.
Dw i wedi cyhoeddi fy mwriadau da ar fy mlog i, felly mae'r holl fyd yn gwybod, felly rhaid i mi parhau.
Sgrech y coed ydy aderyn y dydd, ger Cronfa Piethorne.
Gellesgen felen ydy blodyn y dydd, ar y ffordd ger Clwb Golff Tunshill.
Potel Jennings Cumberland Ale ydy cwrw y dydd, yn Clwb Llafur Rochdale ar ôl cyfarfod hyfforddiant aelodau.
Saig y dydd: Mangos Pacistanaid. Cawson nhw eu brynu yn marchnad Rochdale heddiw.
Cân y dydd: Gorffen gan Meinir Gwilym.
Subscribe to:
Comments (Atom)








