This blog is an attempt to concentrate my thoughts on various interests and concerns.

Tuesday, 21 June 2011

Mehefin 21ain Dydd Mawrth


Mi ges i fy neffro gan fy ngwraig am 5.30yb. "Mae Smotyn (y gath) ddim wedi bod adre y noson y gyd," meddai hi. Felly cerddais i'r strydoedd amgylchynol ond roedd o wedi dod adre ar ei ben ei hun. Wedyn es i am dro. Gwelais i bioden yn rhedeg ar ôl gwiwer ar wâl ar Kiln Lane. Mi es i drwy Peanock, lle oedd Edwin Waugh, bardd tafodiaeth Swydd Gaerhirfryn 1817-90, yn byw.

Aderyn y dydd: Gwyach fawr gopog. Ar Llyn Hollingworth. Dim Gwyach big-frith o gwbl yn anffodus.
Blodyn y dydd: Tresgl y moch.
Saig y dydd: Pwdin bara menyn efo ciabatta, cyrens, bricyll sychion a mwyar goji.
Cwrw y dydd: Dau beint o Thwaites Wainwright yn y Crocbren efo Geoff ac Ian.
Cân y dydd: Siwgwr i'r tân Meinir Gwilym



http://www.mapmywalk.com/routes/view/38287800




No comments:

Post a Comment